SL(6)379 – Rheoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) (Diwygio) (Cymru) 2023

Cefndir a diben

Mae Rheoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) 1990 (“Rheoliadau 1990”) yn gosod cyfyngiadau ar weithgareddau gwleidyddol cyhoeddus swyddogion llywodraeth leol mewn swyddi sy’n swyddi o dan gyfyngiadau gwleidyddol at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (“swyddi dan gyfyngiadau”).

 

Mae’r cyfyngiadau ar ffurf telerau ac amodau y bernir eu bod wedi eu hymgorffori yn nhelerau penodiad ac amodau cyflogaeth y swyddogion hynny (“y cyfyngiadau”).

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn y cyfyngiadau i swyddogion cydbwyllgor corfforedig a sefydlwyd gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 lle mae'r swyddogion hynny'n cael eu penodi i, neu eu cyflogi mewn swyddi dan gyfyngiadau.

 

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae Rheoliad 3 yn mewnosod diffiniad newydd o "awdurdod lleol" yn rheoliad 2 o Reoliadau 1990 sy'n darparu, at ddibenion Rheoliadau 1990, fod awdurdod lleol yn cynnwys Cyd-Bwyllgor Corfforedig.

Yn yr Atodlen i Reoliadau 1990, sy'n cynnwys y cyfyngiadau, ceir nifer o gyfeiriadau at awdurdod lleol. Er enghraifft, mae paragraff 2C o'r Atodlen honno'n darparu ar gyfer terfynu penodiad ar unwaith mewn amgylchiadau pan fo deiliad swydd perthnasol yn rhoi hysbysiad i'r "awdurdod lleol" o fwriad i ddod yn ymgeisydd mewn etholiad yn y Senedd.

Felly, gofynnir i'r Llywodraeth egluro effaith arfaethedig rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn, i'r graddau y mae'n ymwneud â phob un o'r cyfeiriadau at "awdurdod lleol" sy'n ymddangos yn yr Atodlen i Reoliadau 1990.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod y Rheoliadau hyn:

“…yn rhan o becyn o offerynnau sy’n sail i sefydlu CBCau ac sy’n ceisio sicrhau eu bod yn ddarostyngedig i’r un gofynion gweinyddu a llywodraethu â llywodraeth leol.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru o ran y pwynt adrodd cyntaf.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

18 Medi 2023